èßäAv

Digwyddiad Sgiliau a Chyflogadwyedd Blaenau Gwent

Ydych chi’n chwilio am swydd newydd, newid gyrfa neu hyd yn oed ffordd o gyfrannu mwy at weithgareddau cymunedol? Mae Tîm Cronfa Ffyniant Gyffredin Pobl a Sgiliau Cyngor Blaenau Gwent yn cynnal arddangosfa i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ymhellach a dod o hyd i waith.

Cynhelir y digwyddiad yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy rhwng 11am a 2pm ddydd Iau 3 Hydref 2024, lle gallwch ddysgu am amrywiaeth o weithgareddau o leoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddiant (ffurfiol ac anffurfiol) i ddosbarthiadau crefft, coginio a DIY. Mae'r Tîm Cronfa Ffyniant Gyffredin Pobl a Sgiliau yn dod ag ystod o bartneriaid, busnesau lleol a chefnogwyr ynghyd a all eich helpu i gael mynediad at yrfaoedd newydd, magu hyder, ennill sgiliau newydd a dod o hyd i'r lle iawn i chi yn y gymuned.

Ar gael i bob aelod o'r gymuned, dyma'r digwyddiad delfrydol i ddysgu mwy am yr ystod eang o gyfleoedd a'r gweithgareddau dysgu sgiliau amrywiol sydd ar gael ledled Blaenau Gwent. Mwynhewch ddiod boeth am ddim gyda'r Tîm a dathlwch effaith Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ledled y fwrdeistref.