èßäAv

Penodi lleygwyr i bwyllgorau llywodraethu ac archwilio

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar hyn o bryd am benodi Personau Lleyg i’w Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

Mae’r pwyllgorau statudol hyn yn rhan allweddol o fframwaith llywodraethu a rhaglen cefnogi gwelliant Awdurdodau Lleol. Diben y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw cynnig sicrwydd annibynnol ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheoli mewnol, asesu perfformiad, ymdrin â chwynion a chywirdeb y dulliau adrodd ariannol a’r prosesau llywodraethu. Drwy oruchwylio’r gwaith archwilio mewnol ac allanol, gwneir cyfraniad pwysig tuag at sicrhau bod trefniadau sicrwydd effeithiol yn eu lle.

Mae nifer o awdurdodau lleol yn defnyddio cyfarfodydd ar-lein ar gyfer eu Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio wrth feddwl am y dyfodol. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i Leygwr gymryd rhan mewn Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio.

Bydd y pwyllgorau’n cyfarfod sawl tro yn ystod y flwyddyn a bydd Lleygwyr (Aelodau Annibynnol) yn derbyn tâl ariannol. Cydnabyddiaeth yn cael eu talu yn unol â'r cyfraddau a benderfynir gan

Mae lleygwr yn golygu nad yw’r person:

1. Yn aelod nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol,
2. Ar unrhyw adeg yn y cyfnod o ddeuddeng mis yn gorffen ar ddyddiad y penodiad wedi bod yn aelod nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol, nac
3. Yn briod nac yn bartner sifil i aelod neu swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol.

Yn ogystal â bodloni’r meini prawf hyn, bydd angen i ymgeiswyr addas fod yn anwleidyddol gyda dealltwriaeth ac ymroddiad i’r 7 Egwyddor o Fywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan) a gallu dangos y rhinweddau a’r priodoleddau canlynol:

  • Diddordeb a gwybodaeth/profiad o reoli materion ariannol, risg a pherfformiad, archwilio, cysyniadau a safonau cyfrifeg, a’r drefn reoleiddio yng Nghymru;
  • Meddwl gwrthrychol ac annibynnol gydag agwedd ddiduedd a’r gallu i fod yn gynnil;
  • Cefnogi egwyddorion llywodraethu da a’u defnyddio'n ymarferol er mwyn cyflawni’r amcanion sefydliadol;
  • Meddwl yn strategol gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog;
  • Gallu deall a phwyso a mesur tystiolaeth a herio gyda pharch.
  • Nid yw gwybodaeth fanwl am lywodraeth leol yn angenrheidiol, er y disgwylir i ymgeiswyr posibl fod â diddordeb mewn materion yn ymwneud â bywyd a gwasanaethau cyhoeddus.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1af o Dachwedd. Ar gyfer ffurflen gais neu fwy o wybodaeth, e-bostiwch louise.rosser@blaenau-gwent.gov.uk