O 4 Mai 2023, bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos llun fel ID i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.
Bydd hyn yn berthnasol i:
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a ThrosedduÌý
- Is-etholiadau seneddol y DU
- Deisebau adalw
O fis Hydref 2023, fe fydd hefyd yn berthnasol i etholiadau cyffredinol y DU.
Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos llun fel ID i bleidleisio yng ngorsafoedd pleidleisio etholiadau’r Senedd na etholiadau cynghorau lleol.
Dysgwch pa fathau o ID sy’n dderbyniol yma:Ìý
Os nad oes gennych ID a dderbynnir, gallwch wneud cais am ddogfen ID Pleidleisiwr am ddim. Gelwir hyn yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr.
Gallwch wneud cais yma:Ìý
Bydd rhaid eich bod wedi cofrestru i bleidleisio cyn y gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr.
Gallwch gofrestru i bleidleisio yma:Ìý
Ìý
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Cofrestru Etholiadol
Ffôn: 01495 355090
E-bost:Ìý electoral.services@blaenau-gwent.gov.uk