èßäAv

Derbyniadau Dosbarth Derbyn

Rownd Derbyniadau Dosbarth Derbyn 2024-25

Mae derbyniadau dosbarth derbyn ar gyfer y flwyddyn academaidd yn dechrau ar 6 Ionawr 2025 ac yn cau am 5pm ar 21 Chwefror 2025.

Gellir gweld dyddiadau pwysig i chi fel rhiant eu nodi yma: Dyddiadau allweddol ar gyfer Derbyniadau Ysgol 2025

Mae plant yn gymwys i gael eu derbyn i’r dosbarth derbyn ar ddechrau’r flwyddyn ysgol y mae eu pen-blwydd yn 5 oed ynddi (os bydd eich plentyn yn troi’n 5 yn y flwyddyn 2024/25). Nid yw’n ofynnol yn gyfreithiol i blant fynychu’r ysgol tan ddechrau’r tymor ysgol yn dilyn eu pumed pen-blwydd.

Dim ond ceisiadau a ddaw i law erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig, gyda thystiolaeth ategol berthnasol, fydd yn cael eu hystyried yn y rownd gyntaf o ddyrannu disgyblion i ysgolion. Gall ffurflenni a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn, neu ffurflenni anghyflawn, arwain at wrthod lle i blentyn yn ei ddewis ysgol gynradd.

Os yw plentyn yn mynychu lleoliad meithrin yr ysgol o ddewis ei rieni ar hyn o bryd, bydd angen cyflwyno ffurflen gais gan na fydd presenoldeb yn y lleoliad meithrin yn gwarantu y caiff ei dderbyn i ddosbarth derbyn yr ysgol honno.

Yn achos addysg cyfrwng Cymraeg, yr awdurdod derbyn (Cyngor Blaenau Gwent) sy’n gyfrifol am leoli disgyblion yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Bydd y disgyblion hyn wedyn yn cael lle ar gampws Blaenau neu Dredegar gan dîm arweinyddiaeth a chorff llywodraethu Ysgol Gymraeg Bro Helyg.

Newyddion: Mae Ysgol Gymraeg Bro Helyg bellach wedi agor ei hegin-ddarpariaeth, Ysgol Gymraeg Tredegar, yn ei lleoliad dros dro yn NhÅ· Bedwellte, Stryd Morgan, Tredegar, ar gyfer disgyblion meithrin a derbyn. Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25, bydd Ysgol Gymraeg Tredegar yn cael ei lleoli yn ei hadeilad ysgol newydd ar Ffordd y Siartwyr, Sirhywi, Tredegar.

Mae gennych gyfrifoldeb, yn ôl y gyfraith, i sicrhau bod eich plentyn yn cael addysg amser llawn priodol.

Os ydych yn dal yn ansicr ynghylch pa ysgol i’w dewis ar gyfer eich plentyn, gweler ein llyfryn cychwyn yn yr ysgol: 

I ofyn am gopi, cysylltwch â’r Swyddog Derbyn drwy e-bost: schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am y broses derbyn i ysgolion, cyfeiriwch at Bolisi Derbyn i Ysgolion Blaenau Gwent ar gyfer Addysg Feithrin a Statudol 2025/26.

 

Deietau Arbennig

I wneud cais am ddeiet arbennig, llenwch y ffurflen gais am ddeiet arbennig a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar waelod y ffurflen.

Unwaith y bydd yr Adran Arlwyo a deietegydd wedi derbyn y ffurflen, byddwch naill ai’n derbyn bwydlen deiet arbennig ar gyfer eich plentyn drwy’r post/e-bost neu byddant yn cysylltu â chi i drafod gofynion eich plentyn yn fwy manwl cyn anfon bwydlen atoch. Caniatewch hyd at dair wythnos i’ch bwydlen gyrraedd.

Er mwyn diogelu iechyd eich plentyn, mae’r Adran Arlwyo yn gofyn i chi ddarparu pecyn cinio i’ch plentyn o’ch cartref hyd nes y byddwch wedi derbyn dyddiad cychwyn wedi’i gadarnhau.

 

Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant yn yr Ysgol Gynradd

Mae gan bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ymrwymiad hwn mewn ymateb i’r pwysau cynyddol o ran costau byw ar deuluoedd a’n huchelgeisiau cyffredin o fynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwglyd yn yr ysgol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi’r cynllun ar waith cyn gynted â phosibl. Mae manteision ehangach hefyd i brydau ysgol am ddim, gan gynnwys hybu bwyta’n iach ar draws yr ysgol, cynyddu’r amrywiaeth o fwyd y gall dysgwyr ei bwyta, gwella sgiliau cymdeithasol amser bwyd, yn ogystal â gwella ymddygiad a chyrhaeddiad. Mae’r polisi’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a fydd yn gweld prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn i bob disgybl ysgol gynradd dros y tair blynedd nesaf.

Nid oes angen cofrestru: wrth gofrestru ar ddechrau’r diwrnod ysgol, bydd ond angen i’ch plentyn nodi a oes angen pryd ysgol arno. Hefyd, os oes gan eich plentyn alergedd neu anoddefiad, bydd angen i chi lenwi a dychwelyd y ffurflen gais am ddeiet arbennig.

 

Dogfennau Cysylltiedig

Manylion Cyswllt

Derbyniadau i Ysgolion

Rhif ffôn: (01495) 369502 / (01495) 369524. Sylwch, bydd aelod o’r tîm ar gael i ateb unrhyw alwadau rhwng 9am a 12 hanner dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os oes angen i chi siarad â rhywun y tu allan i’r oriau hyn, anfonwch e-bost at schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk i ofyn am alwad yn ôl a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.

Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, Blaenau Gwent, NP23 6DN